Doniau Disglair ein Disgyblion
Llwyddiant yn Eisteddfod yr Urdd 2025
Cawson ni lwyddiant yn Eisteddfod yr Urdd eleni mewn 5 o gystadlaethau creadigol.
​
Daeth y Cywaith Iau yn fuddugol. Dyma'r ddolen i weld eu gwaith - https://jonesm1550.wixsite.com/cywaith-2025
https://adranygymraegbrynt.wixsite.com/cynaliadwyedd/blog
​
​
Gallwch ddarllen eu gwaith isod.
​
Rhyddiaith blwyddyn 9
Adar o’r un lliw
Annwyl ffrind newydd, 6/1/05
Shw’mae? Anna dwi, a dwi methu aros i ddod i dy nabod di a bod yn ffrindiau gorau. Am gynllun gwych ydy hwn! Dwi mor hapus bod yr ysgol wedi ein partneru ni gyda charcharorion sydd ag ymddygiad da. Un swil ydw i... Mae mamgu yn gweud mod i fel deryn bach sy’n rhy ofnus i glywed nodau ei gân ei hun. Dwi’n gweld e’n anodd siarad â phobl neu greu ffrindiau felly dwi’n gobeithio bydd hyn yn newid hynny! Dylen ni fod yn oedran tebyg fyd gan dy fod yn yr adran ieuenctid, neu juvy ie?! Ond gwell i mi gyflwyno fy hunan cyn i mi ddechrau ysgrifennu’n ddi-stop. Alla i glywed mam nawr, “dere nawr Anna!” Fel yr rwyt ti’n ei wybod fy enw i yw Anna, rydw i'n ddeuddeg mlwydd oed a Gwyddoniaeth sy’n mynd â fy mryd yn yr ysgol. Dwi’n cuddio tu ôl i wallt cyrliog brown hir ac rwy’n gweld y byd gyda llygaid mawr glas,ond mae'r rheini yn cuddio tu ôl i fy sbectol. Dwi ddim yn cael yr amser rhwydda’ oherwydd fy sbectol. Gall plant fod yn gas a chreulon gyda geiriau sy’n brathu fel cath wyllt, ti’n gw’bod... Wyt, dwi’n siŵr... Ta beth, mae gen i gath gartre (dyw hi ddim yn wyllt nac yn brathu!) a dwi’n ei charu’n fwy nag unrhyw beth a brawd mawr sydd yn gallu mynd ar fy nerfau.
Dyw pobl ddim yn or-hoff o siarad â mi llawer gan fy mod yn un dawel. Weithie dwi’n teimlo chydig bach fel alltud, sa’ i’n siŵr beth sydd wedi achosi hyn ond dyw hi ddim yn deg. Does gen i neb i siarad ag e am y problemau yma gan fod Mam a Dad yn rhy brysur gyda’r ysgariad ac mae’r athrawon yn rhy hoff o’r plant creulon! Dyna pam fod y cyfle hwn i siarad gyda ti wedi gwneud i fy nghalon ganu. Dwi’n gobeithio dy fod di’n gallu gwrando a fy helpu i ac yn bwysicach, falle, jyst falle, gelli fod yn fy ffrind cyntaf ers achau. Fu gen i neb i siarad â nhw am amser hir a dwi’n amau na alla i ddarganfod neb yn y dref fach hon.
Ond mae hynny’n ddigon amdana i! Beth amdanat ti? Beth yw dy hoff liw? Fy hoff un i yw melyn, melyn fel yr haul ar y bore cynta ti’n sylwi bod y Gwanwyn wedi dod, neu felyn fel y cwstard gyda sbynj mamgu, neu felyn fel y cyw bach delaf a welaist di erioed... Beth yw dy enw? Sut mae pethe yn juvy? Pam wyt ti yn juvy? O. Na, does dim rhaid i ti ateb hynny, all hynny fod yn rhy bersonol. Sori am hynny, dwi wastad wedi bod yn rhy fusneslyd, mae’n un o’r nodweddion sy’n achosi i fi gael fy mwlio fwyaf. Ond ar nodyn hapusach, mae gen i ddiddordeb mawr iddod i dy nabod di.
Dwi’n flin am fy meddyliau di-ben-draw. Weithiau fedra i ddim peidio a dwi’n siarad am oriau gyda fi fy hun, mae gen i ddigon o syniadau creadigol ond neb i wrando arnyn nhw ond hoffwn i hynny newid. Gobeithio dy fod yn gallu ateb a gallwn fod yn ffrindiau.
Dy ffrind newydd,
Anna
Shw’mae Anna, 14/1/05
`Wy’n hynod o ddiolchgar dy fod wedi fy newis i ar gyfer y rhaglen allgymorth yma. Gair ffansi ydy allgymorth ynte? Ddysgais i erioed y gair hwnnw yn yr ysgol! O be wela’ i mae gen ti lawer ar dy blât ar y foment a mae dy fywyd yn eithaf annheg. Ro'n i fel ti ar un adeg, dim ffrindiau, dim sylw ac yn cael fy nhrin yn wael iawn. Gwna i gyfaddef gyfrannodd hynny lawer tuag at y sefyllfa `wy ynddi ar y foment, ond `wy am geisio fy ngorau glas i sicrhau bod pethau’n wahanol i ti ac i wneud yn siwr nad wyt ti’n dewis yr un llwybr wnes i.
Fy enw i yw Catrin, ond gallet ti fy ngalw i yn Cat. `Wy’n troi’n ddwy ar bymtheg yn fuan ac `wy wedi treulio cynfod go hir yn y carchar yma. `Sa i'n edrych fel y carcharon ar y teledu gyda tatŵs, creithiau a phersonoliaeth gas. I fod yn deg does neb yma yn edrych fel na. Ry'n ni i gyd yn blant a gafodd ein trin yn anghywir. `Wy ma oherwydd des i yn ffrindiau efo’r math anghywir o bobl, y bobl “cŵl”. Jôc oedd hi, i greu tân bach yn y goedwig ac ofni y creaduriaid bach i ffwrdd. Ar y pryd, pan lifodd y geiriau o’n cegau ni’n un rhes ro’n nhw’n swnio fel y syniad mwya doniol a chlyfar a gwych erioed... Ond aeth popeth yn anghywir a lledaenodd y tân dros yr holl goedwig a difrodi cwpl o dai cyfagos. Wyt ti wedi gweld tân yn symud a llithro a neidio? Mae e fel peth byw, yn hardd ond mor ddinistriol...`Wy wedi difaru y moment yna bob dydd ers e.
`Sa i moyn i ti wneud unrhyw beth tebyg er mwyn “ffitio mewn.” Gall plant yr oedran yna fod yn hynod o greulon (dwi’n gwybod dy fod di’n gwybod hynny o brofiad) ond mae rhaid i ti gofio cadw’n driw i dy hun. Cana dy gân dy hun, dderyn bach. Anwybydda nhw, `dyn nhw ddim yn bwysig ar gyfer dy fywyd di. Ond mae ysgol ac addysg mor werthfawr, wy’n difaru peidio gweithio yn galetach yn yr ysgol pheidio â dilyn fy niddordebau. Falle daw fy nghyfle...
Digon o hynny nawr. I ateb dy gwestiynau, fel gwyddost di fy enw i yw Cat, a fy hoff liw yw melyn hefyd! Melyn y saffrwn sy’n torri drwy lwydni Chwefror, melyn yr wy oedd yn llifo fel afon yn y frechdan gawn i gan dad a melyn yr emoji hapus ar neges gan mam... Ac mae rhaid i mi ddweud, dyw’r carchar `ma ddim mor ddrwg â hynny, `dyn ni'n cael ein trin yn weddol ac mae digon o lyfrau neu offer hyfforddi i gadw’n brysur. Er bod hynny’n dda mae rhaid i mi gyfaddef bod y bwyd yn erchyll a heb unrhyw fath o flas. Ro’n i'n glafoerio fel ci wrth i ti sôn am gwstard a sbynj dy famgu! Ond... `wy wedi newid yn fy amser fan hyn, mae bod mewn lle fel hwn yn gwneud i ti sylweddoli pa bethau sy'n bwysig, mae’n gwneud i ti sylwi be sy ar goll. `Wy’n fwy diolchgar am bopeth a phawb ac mae fy iechyd meddwl yn gwella’n ddyddiol.
Ond i ateb dy bryder olaf. Ydw. Dwi’n bwriadu dy helpu di trwy dy broblemau ysgol neu deuluol. `Wy’n bwriadu bod dy ffrind cyntaf ers achau ac ydw `wy yn bwriadu bod yma i wrando, ymateb neu siarad pan fyddi di angen rhywun. Rwyt ti’n fy atgoffa i o fy hunan ond dyw hi ddim yn rhy hwyr ar dy gyfer di. Bydd yn ti dy hun a bydd popeth yn gwella, dwi’n addo.
Dy ffrind gorau newydd,
Cat
Annwyl Cat, 6/1/25
Ugain mlynedd! Ugain mlynedd ers fy llythyr cyntaf. Ugain mlynedd ers i ti fy achub i. Ro’n i ar goll pan ‘sgwennais i'r llythyr cynta na, ar fin syrthio i dwll du... Ond gwnes di fy achub i. Pwrpas y llythyr yma yw diolch i ti am ein cyfeillgarwch. Dwi ddim yn siwr pwy fyddwn i heddiw oni bai amdana ti, Cat. Dysgais di i'r deryn bach ma ganu ei chân. Fi oedd fod dy helpu di...Does gen i ddim digon o eiriau i ddiolch i ti.
Alla i ddim credu ‘mod iw edi dod o hyd i ti unwaith eto! O ddifri dwiw edi treulio oriau di ben draw yn pori a chwilota drwy gyfrifon facebook, instagram, snapchat... Dwi wedi trio gwefannau papurau newydd ac edrych am straeon amdana ti, ond heb lwyddiant... tan nawr!
Dros y flwyddyn gyfan yna, o ddechrau’r rhaglen tan y diwedd gwnest ti fy helpu. Gwellodd fy mywyd yn sylweddol a ni fedra’ i fod yn fwy diolchgar. Ysgrifennais lawer o lythyron dros y flwyddyn a theimlais i'r hapusaf y teimlais i ers i mi fod yn fach. Gwnaeth yr holl gyngor roist di i mi newid fy mywyd. O ddifri. Ond wedyn ddaeth y cynllun i ben a doedd dim ffordd gen i ddod o hyd i ti gan mai sgwennu at y carchar o’n i wrth gwrs.
Oherwydd dy arweiniad di ro’n i'n hollol llwyddiannus gyda fy addysg ac dwi nawr yn fòs ar gwmni enfawr. Mae gen i ŵr cariadus a charedig a dau blentyn sy’n llenwi fy nyddiau â chariad a chwerthin a chysur. Ers i mi ysgrifennu y llythyr cyntaf atat ti newidiodd popeth, ti yw fy arwr a dwi eisiau bod yn agos ata ti unwaith eto. Dwi eisiau i ti gwrdd â fy mhlant a fy ngŵr a dod yn rhan o’m bywyd i eto.
Tybed a wyt ti wedi newid o gwbl? Wyt ti dal mor glyfar? Roeddet ti wastad yn ceisio dy orau glas a byth yn rhoi’r ffidil yn y to a dyna beth dwi'n ei edmygu amdanat. Dwi’n gobeithio y byddi'n ateb.
Llawer o gariad,
Anna
Annwyl Anna, 20/1/25
Mae rhaid i mi gyfadde', ces i fy syfrdanu. Ro’n i'n credu dy fod wedi anghofio amdana i. Dwi wedi gweld dy eisiau di hefyd. Roedd dy lythyrau di fel dafnau o olau yn ystod y flwyddyn yna, yn goleuo fy modolaeth ddiflas. Ti oedd y melyn yn fy nyddiau. Rwyt ti’n siarad amdana i fel arwr ond nid dyna ydw i i ddweud y gwir. Ti wnaeth fy helpu i yn y carchar a chadw cwmni i mi. Hebddot ti allwn i byth fod wedi goroesi yn y lle yma a dwi’n dragwyddol ddiolchgar am y rhaglen.
Mae fy mywyd wedi gwella hefyd, `wy’n gweithio fel athrawes nawr i blant sydd yn bihafio'n ddrwg. Wrth gwrs, yn fy marn i nid ydyn nhw yn bihafio'n ddrwg, wedi cael eu camddeall maen nhw, neu wedi syrthio i batrwm gwael. Ond mae’r gwaith yn arbennig, yn werthfawr, yn rhodd,. Mae gweld y plant yma yn gwella yn gwneud i mi gofio bod yna siawns i blant oedd fel fi allan na. Mae hefyd gen i gariad a llawer gormod o gŵn. Rydym yn byw mewn tÅ· clyd yn y wlad a gallwn ni ddim fod yn hapusach.
Er i ni gael bywydau gwahanol, cawson ni ein magu yn debyg. Y dewisiadau sy’n ein cadw ar wahân ond mae hynny’n iawn. Rydym wastad wedi bod yn adar o’r un lliw, ers i mi ddarllen y llythyr cyntaf. Rydym mor debyg ac eto mor wahanol, ond dwi’n gallu gweld fy hunan ynot ti Anna ac rwyt wedi troi mas i fod y person oedd yno o hyd, dim ond i ti ganu dy gân dy hun.
Dwi’n cytuno gyda ti. Hoffwn gwrdd â dy blant a dy ŵr a hoffwn fod yn rhan o dy fywyd. Yn barhaol tro yma, dyma fy rhif ffôn i wneud cyfathrebu yn haws: +44 7450 988208
Llawer o gariad,
Cat
​
Barddoniaeth bl 10 ac 11
Cyfarchion y Tymor
(Ymateb i Season’s Greetings gan Banksy)
(Mab)
ma' eira’n beth drwg yn ein tref ni,
mae e’n afiach a brwnt...
‘na be mae Mam yn gweud be’ bynnag.
‘Bad omen’ sy’n gynnyrch pechod dynol ryw,
‘na be mae Mam yn gweud be’ bynnag.
del yw’r plu llwyd o’r awyr,
ond da ti, maen nhw i'w gweld nid i'w cyffwrdd.
ni wnaeth hyn, ni sydd ar fai,
‘na be mae Mam yn gweud be bynnag.
yn cwympo, cwympo, cwympo,
yn dawel fel ochenaid o siom.
‘wy wedi blasu eira,
fel y pupur ar fwyd Mam,
yn gadael blas chwerw yn fy ngheg,
yn fy nhagu i fel llaw greulon am fy ngwddf,
yn fy ngadael yn awchu am ddŵr.
ma' eira’n beth drwg yn ein tref ni,
mae e’n afiach a brwnt...
‘na be mae Mam yn gweud be’ bynnag.
(Mam)
Chawn ni ddim eira yn ein tref ni,
Gwna'r môr yn siŵr o hynny.
Ond cwympa’r plu llwyd yn greulon,
Yn glanio’n dawel fel cysgod angau.
Cawodydd eira yw’r rheini,
Wedi'u creu gan y ffatrïoedd a ffwrneisi.
Twyll llwyd llawn lludw a llwch,
Ond sut gallwch dorri calonnau'r plant g’wedwch?
Celwydd
Fel gwenwyn yn yr aer yn llidio.
Rhyddiaith Bl.10
​
Gwreiddiau
Mae mam yn gofyn i mi fynd i nôl yr addurniadau Nadolig, “Wrth gwrs!!” atebaf yn gyffrous. Mae’r cyffro yna yn diflannu’n syth wrth i mi sylweddoli fod rhaid i mi fynd i'r atig i'w nôl nhw. O rwy’n casáu'r atig â chas perffaith. Y gweoedd pry cop ym mhob man rwy’n troi, y bwlb sy’n fflachio’n argoelus wrth i mi gerdded yn wyliadwrus, y sibrwd rwy’n tyngu fy mod i'n clywed. Mae hyd yn oed y syniad o’r lle yn rhoi ias i lawr fy nghefn. Ond mae’n wythnos gyntaf Rhagfyr a rhaid i fi gael yr addurniadau i fyny heddiw neu fyddan nhw byth yn cael eu gosod! Rwy’n cerdded at ddrws yr atig, ac yn syllu arno am eiliad cyn mynd amdani. Rwy’n fflicio’r switsh golau arno ac mae’n fflachio am funud ac yna’n diffodd yn llwyr! Gret! Rhaid i mi nawr wynebu’r daith yn ddall! O, rwy’n casáu'r atig!
Cerddaf am tua tair metr, yn ymestyn i lawr, a gafael yn y bocs llwythog. Mae’n teimlo'n fwy llychlyd nag arfer. Wrth i mi gamu nol, gollyngaf y bocs ar ddamwain a daw popeth yn bentwr ar lawr! Dyma fi’n sylweddoli nad addurniadau Nadolig yw’r rhain o gwbl! Rwyf wedi bachu'r bocs anghywir! Ond beth sydd yn y bocs yma felly? Ymbalfalaf ar y llawr a dod o hyd i fflach lamp. Y peth cyntaf sy’n dal fy llygad yw llun....mae’n fregus, fregus iawn ond mae’r ferch yn y llun yn hynod o debyg i fi. Edrychaf ar gefn y llun, “Carys ap Owen 1906 ”, “Carys” ble ydw i wedi clywed yr enw Carys o’r blaen? Wrth gwrs, enw canol mam-gu, mae’n rhaid taw llun o ryw hen, hen, hen fam-gu i mi yw hyn.
Nawr craffaf ar weddill cynnwys y bocs. Mae llyfr yma.... chwythaf y llwch... heb sôn am y gwe pry-cop! Mae’r papur yn edrych fel pe bai wedi bod ar antur ar draws y byd, “Annwyl Ddyddiadur” darllenaf. Dyma ddyddiadur yn sôn am brofiadau’r un fenyw a welais yn y llun. Synnaf wrth ddarllen ambell frawddeg.... mae’n amlwg fod ganddynt ffyrdd hollol wahanol o gael hwyl yn y dyddiau a fu. Ar ôl bodio nifer o dudalennau, mae’r dyddiadur yn newid, ac awdur newydd yn ei feddiannu..... mam-gu. Erbyn heddiw, mae mam-gu ond yn siarad am wau, bingo a chlwb llyfrau, mae bach yn boring i fod yn onest, ond mae’r llyfr bron yn swnio fel llais person gwbl wahanol! Hoffwn pe allwn glywed am yr hyn wnaeth hi yn ei dyddiau ifanc. Ond bellach, mae’n anghofio bod twrci yn y ffwrn ganddi! Bu bron iddi losgi’r holl dÅ· dros y Nadolig! “Heddiw es i i archwilio ogof, roedd y lle teneuaf ond yn 25cm” ym helo? Ers pryd bod mam-gu yn anturus? Mae’n cael ofn wrth glywed rhywun yn cnocio ar y drws y dyddiau yma! Dyma fi’n cyrraedd diwedd cofnodion mam-gu, ac yn disgwyl gweld cofnodion mam i ddilyn, ond dim. Dim yw dim. Tybed pam fod y llyfr wedi gorffen gyda mam-gu?
Penderfynaf sleifio’r llyfr i fy ystafell. Rwy’n ei guddio dan fy nghrys ac yn ei roi e yn fy nghuddfan dirgel. Dyma lle roeddwn i'n arfer cuddio fy losin Calan Gaeaf i rwystro fy mrodyr eu cymryd. Dw i newydd sylweddoli fy mod i wedi gadael loli yno 4 blynedd yn ôl! Ew bin! Rwy’n stwffio’r llyfr mewn ac yn dod nol ato yn ddiweddarach yn y noson. Rwy’n cuddio o dan fy mlanced gyda’r llyfr a’r fflach lamp. Penderfynaf ysgrifennu gofnod fy hun. Ysgrifennaf am fy mhrofiad yn yr atig a’r holl bethau darganfyddais. Dechreuaf gadw cofnod bron pob nos. Teimlaf yn agosach at mam-gu ers dod o hyd i'r llyfr. Mae’n teimlo fel fy mod yn dysgu am fy hun wrth ddysgu amdani hi. Darllenaf am ei diddordeb mewn hwylio a’r môr gan weld o ble y cefais i'r diddordeb. Rydym ni mor debyg mewn gwirionedd... er na wnes i sylwi o’r blaen.
Llwyddiant yn Eisteddfod yr Urdd 2024!
Enillodd y ddau gywaith wobrau cyntaf yn yr Eisteddfod ym mis Mai. Gallwch weld y gwaith drwy ddilyn y dolenni isod:
Cywaith iau:
Cartref | Llanw A Thrai (meinirjones20.wixsite.com)
Cywaith hÅ·n:
Doniau Disglair 2023
Cyhoeddir y llyfr fel rhan o ddathliadau llenyddol Adran y Gymraeg 2023
Cynnyrch Seremoni Cadeirio Bryn Tawe
Cyntaf am Gadair Bl.7-9
Esgidiau Newydd – gan Fanw Watson
​
Dyna lle roeddent ar y silff unig
Yn galw ata i o’r galon,
Roedden nhw fel rhywbeth o fy nychymyg
Y fath esgidiau a fyddai yn fy mreuddwydion.
​
Y carrai aur a sgleiniog
Y sodlau cadarn all fy nghario bob man,
Y brand poblogaidd ac enwog
Yr esgidiau perffaith i redeg neu loncian.
​
Beth am fy hen esgidiau druan?
Y rhai a wnaeth ennill llawer o gemau ar fy nghyfer;
Yr esgidiau a wnaeth i'r bêl deimlo fel pluen -
Ond torri wnaethant ymhen amser.
​
Ond beth os nad yw’r esgidiau yma cystal â’r hysbyseb?
Beth os yw’r esgidiau’n difrodi’n hawdd?
Beth os yw’n arwain at drychineb?
Beth os ydynt yn wael eu hansawdd?
​
Ddydd Sadwrn - fi oedd y canolwr -
Saethais i gornel chwith uchaf y gôl;
Fy nhraed yn driblo fel dŵr!
A’r diolch am y cyfan oll i fy esgidiau newydd, arwrol.
​
Dylwn fod wedi sylwi’n gynt -
Mai fi oedd y ffŵl am beidio â chredu ynddynt!
​
​
​
​
​
Ail am Gadair Bl.7-9
Ymson Dros y dŵr gan Tirion Clarke
​
Heddiw yw’r dydd rydyn ni’n mudo o Afganistan i'r Deyrnas Unedig. Teimlaf mor ofnus ond yn gyffrous hefyd i ddechrau’r daith hir i fywyd gwell. Mae mam wedi pacio popeth y gallwn ffitio ar y llong fach byddwn ni’n teithio arni. Rydw i’n gallu gweld bod mam yn ddiolchgar iawn ein bod ni’n cael y cyfle yma o’r diwedd. Mae bywyd yn Afganistan yn ofnadwy, yn hunllefus. Mae mam a fi yn ofni am ein bywyd ni bob dydd yma oherwydd ISIS. Arweinwyr annheg dros ben ydyn nhw. Alla i na mam ddim hyd yn oed mynd mas ar fy mhen fy hun. Does dim hawl gyda ni i weithio na dangos ein gwallt oherwydd ein bod ni’n fenywod. Bydd y cyfle yma i ddechrau o’r newydd yn arbennig. Rydw i’n barod!
Gwelaf y cwch bach am y tro cyntaf nawr ac mae’r pryder yn cynyddu. Mae’r cwch mor fach a’r ciw o bobl mor fawr. Mae’n las ac wedi cael ei chreu mas o blastig. Mae ryw injan yn sticio mas sydd yn fawr ac yn llwyd. Pa mor ddiogel yw hyn? Yn sydyn, clywaf y dyn yn gweiddi “dewch i nôl eich siacedi achub i fynd ar y cwch”. Wrth glywed hyn, mae mam yn gafael yn fy llaw ac yn gwthio heibio i bobl yn benderfynol o gael gafael ar siaced oren.
Pan gyrhaeddon ni i’r dyn , holodd e mam am ein henwau ni. Ar ôl sgwrs fach, cawson siaced achub a cherddon ni ar y cwch bach am y tro cyntaf. Eisteddais i lawr. Doedd dim llawer o le yn y cwch yma ond roeddwn i’n hapus. Edrychais i lawr a gwelais y dŵr yn disgleirio. Teimlais ryddhad ein bod o’r diwedd yn cael dianc o’r perygl adref. Gwyliais, am yr hyn oedd yn teimlo fel oes, y cwch bach glas yn llenwi gyda phobl tan ei fod e’n dan ei sang. Roedd yn glawstroffobig iawn ond roedden ni’n gallu cadw’n gynnes. Pan oedd pawb ar y cwch, tynnodd y dyn llinyn yr injan a dyma ni’n symud.
Roedd y siwrnai yn un hir. Mae’n dywyll erbyn nawr ac alla i ddim cysgu. Ry’n ni wedi bod yn hwylio am tua phedair awr nawr. Mae’r olygfa o’r cwch yn brydferth a heddychlon. Syllaf ar y sêr. Mae’r oer a dw i'n cwtsho mewn gyda mam.
Dw i wedi deffro i haul llachar yn fy llygaid. Does dim llawer i wneud ar y cwch. Does dim modd symud oherwydd ei fod e’n orlawn. Mae’n debyg bod oriau maith ar ôl.....
O’r diwedd, ry’n ni wedi cyrraedd ac yn ddiogel o’r diwedd. Camodd pawb o’r cwch yn eithaf cyflym ac roedd hi mor braf cyffwrdd y tir o’r diwedd. Roedd mam wedi crio oherwydd ei bod hi a’i merch yn ddiogel o’r diwedd ar ôl tair blynedd ar ddeg hir o ymladd i ddianc.
Ry’n ni mewn lloches dros dro. Diogelwch. Dim ofn. Ffrindiau. Hapusrwydd. Heddwch. Mam a fi... yn ddiolchgar.
Trydydd am Gadair Bl.7-9
Esgusodion gan Maïwenn Watson
​
Rwy methu dod sori,
Smo fi’n teimlo’n iawn.
Does gen i ddim llawer o egni,
Rwy’n mynd rhywle yn y p’nawn.
Smo fi eisiau cinio,
Smo fi’n ngwneud fy ngwaith.
Smo fi’n ymddiheirio,
Rwy ben fy hun, felly PAID!
​
Dwi’m isio cwrdd a pobl,
Dwisio bod ben fy hyn.
Dwi’m isio mynd i'r parc,
Dwisio aros yn y tÅ·.
Dwi’m isie gweld mam-gu,
Neu fy nghefnder ‘fyd.
Mae côr LOT rhy boring,
Smo fi’n actio’n bwdlyd.
Dyma’r esgusodion,
Rwy’n defnyddio bron bob dydd.
Ffordd o osgoi achlysuron,
Ond y peth gorau...
Yw eu defnyddio unrhyw bryd.
Cyntaf am Gadair Bl.10-13
Goroesi gan Nataya Lewis
Dwi'n Casau Katrina & The Waves
Wyt ti’n gw’bod y dywediad yna? Rhywbeth fel ‘pan mae pethau’n mynd yn tyff, mae’r tyff yn dal ati.’ Mae’n gweithio’n well yn Saesneg... Wel, ta waeth, mae’n gelwydd. Pwy bynnag dd’wedodd hynny yw’r person mwyaf cyfrwys a fodolodd erioed. Oherwydd y dywediad yna o’n i wir yn credu beth bynnag fyddai’n digwydd i fi bydden i ryw ffordd yn dod drosto fe. Twpsyn. Dwi’n edrych yn ddwl. Credu dywediad mor blentynnaidd â `na. Ond o’n i. O’n i’n credu’r wynebau llawn hyder pan ddwedon nhw bydda’ i'n iawn. A’r wên ‘da nod oedd wastad yn llenwi fi ‘da gobaith. Y geiriau ysbrydoledig dd’wedodd y nyrs y noson yna. O’n i’n credu nhw i gyd pan dd’wedon nhw fyddai’r strôc ddim yn fy effeithio i... Nawr edrycha arna’ i. Arhosa, gelli di ddim deall heb esboniad. Bydda i’n esbonio i ti, dwi mewn cadair olwyn. Mae strôc wedi fy mharlysu.
“Bydd y strôc ddim yn dy effeithio di yn barhaol.” Rili? Doctoriaid sydd wedi astudio meddygaeth mewn rhai o brifysgolion gorau’r byd, heb wybod beth oedd wedi achosi’r strôc neu heb sylwi byddai’r strôc yn effeithio fy mywyd. Ydw, dwi'n deall dwi’n lwcus i fod yn fyw. Ond os d’ych chi ddim yn gallu symud beth yw'r pwynt i fywyd? Ydy ‘wel dwi wedi byw’ yn esgus digon da i beidio bod yn grac `da’r byd? Ydy e?! Ond i fi, dydy’r ffaith mod i wedi fy mharlysu ddim mor ddrwg â hynny... Na y cywilydd ddaw ‘da’r gadair olwyn yw’r peth gwaethaf. Pan wyt ti’n edrych tipyn yn wahanol i’r person arferol mae’r llygaid i gyd arna’ ti.
Cyn y strôc ro’n i’n caru pobl yn edrych arna’ fi. Pobl yn sylwi arna’ fi. Roedd y ffaith bod pobl eisiau edrych arna’ fi yn llenwi fi `da hunan hyder. Ond nawr pan mae pobl yn edrych dwi'n gwybod dydy e ddim oherwydd eu bod nhw eisiau, ond oherwydd eu bod nhw'n teimlo dylen nhw. `Sa i’n beio nhw, ni gyd fel yna. Mae’n ymateb dynol. Ond dal. Mae’n neud i fi deimlo mor unig a bach. Ond yn y gadair olwyn bydda’ i'n byth yn teimlo mwy o gywilydd na’r diwrnod gefais i fy rhyddhau o’r ysbyty. D’wedodd y nyrsys bydden nhw’n chwarae fy hoff gân. Ar y pryd fy hoff gân oedd ‘Walking on sunshine’ gan Katrina & The Waves... Ie, `na chi, cân am gerdded ar belydrau’r haul a finne wedi fy mharlysu. Ddim yn hollol sensitif ar y pryd. Dwi’n casau’r gân erbyn hyn. Mae’n cymryd fi nôl i'r ysbyty. Y dyddiau ailadroddus. Cyn y strôc llenwodd y gân fi ‘da atgofion cariadus, yn benodol fy negfed parti penblwydd. Llenwodd y gân fi ‘da hapusrwydd o’r blaen. Doniol dydy, sut `dyn ni’n dibynnu ar rai pethau i wneud i ni deimlo emosiynau penodol. A phan mae’r cysylltiad `na’n cael ei ddinistrio mae’n anodd cael gafael ar rywbeth arall sy’n dy alluogi i deimlo fel na eto. Dyna pam yn saith ar hugain `sgrifennais i lythyr at Katrina. Dwi’n deall nad ei phroblem hi ydy e. Ond dyna oedd rhaid i fi wneud ar y pryd. Ti’n deall? `Sgrifennais i’r llythyr bron mis yn ôl nawr. Dwi heb glywed nôl ganddi. Yn ôl gwefan www.deadorkicking.com mae hi’n fyw ac yn cicio. `Falle mae hi’n brysur.
Dwi’n Casau Per Henrik Ling
Dim ond tair wythnos, pump diwrnod a phedair awr ar ddeg ar ôl dechrau fy nhaith strôc. Dechreuais i'r peth mwyaf diwerth yn fy mywyd. Ffisiotherapi. O ddifri beth yw’r pwynt, ond am roi gobaith ffug i unigolion. Wel fel gallwch ddychmygu dydy e ddim yn gweithio arna’ i . Ddim oherwydd fy ngallu neu fy noethineb ond oherwydd dwi’n realistig. Ond, yn gyfreithlon rhaid i fi wneud e, yn anffodus.
Mae pob sesiwn yn waeth na’r llall. Yn gyntaf rydych yn cerdded mewn ac mae’r gwenu a geiriau ysbrydoledig yn dechrau, dydy e ddim yn normal. Wedyn maen nhw’n codi fi o’r gadair fel dwi’n ryw fath o blentyn anabl. Ydw, dwi’n anabl ond dwi ddim yn blentyn. Ac yna yn sydyn dwi’n mynd o deimlo fel plentyn i deimlo tua wythdeg. Na - rhy ifanc, dwi’n teimlo tua chant a hanner. Wedyn maen nhw’n gollwng fi ar ffrâm gerdded. Dwi wedi fy mharlysu ac mewn cadair, wrth gwrs galla’ i ddim cerdded. Beth ydy pwynt y ffrâm? Dim gwahaniaeth. Dim ond un person arall sy yn y grŵp. Bachgen bach wedi ei barlysu hefyd. Gawson ni sgwrs ar ôl ei sesiwn gyntaf. Yr un hen nonsens. Wir nawr. Yn dweud, “o ie bydden ni’n iawn, a gallwn gerdded eto” ac sut mae’r therapi penodol wedi cael ei brofi am flynyddoedd a sut gallwn ymddiried ynddo. Twt lol. Mae ganddo’r un bwriadau sydd gan bobl arall. O’n i bron ildio ar y bwriad o fod yn ffrind i’r bachgen yma. Ond wedyn d’wedodd rhywbeth. Rhywbeth gwir. D’wedodd bod rhai pobl yn cyrraedd eu gwely angau yn sylweddoli nad oeddent wedi byw. Hwn oedd y peth mwyaf gwir glywais i am fisoedd. Arhosodd ‘da fi. Bydd e wastad yn aros ‘da fi. Meddylia, mae’n profi llanast bywyd, tydi?
Ar ôl y sesiwn gyntaf ymchwiliais i ffisiotherapi. Wyddoch chi mai’r dyn greodd ffisiotherapi oedd Per Henrik Ling? Ar gyfer ei ferch. Roedd hi’n gymnastwraig a chreodd y ffisio gynllun er mwyn lleihau ei dioddef. Griais i ar ôl darganfod hynny. Griais i yn ddiweddar. Ond gwnaeth y stori yna o dad yn rhoi ei fywyd i leihau dioddef ei ferch i fi grynu. Gwrddais i byth fy nhad. Doedd e byth eisiau nabod fi. Gafodd Mam fi’n ifanc. Dyna fywyd. Mae’n drist, unig a diwerth. Y gwir yw, s’neb rili eisiau bod yna i chi oni bai eu bod nhw’n gwybod y’ch chi angen nhw. ‘Dyn ni’n faich i'n gilydd. Dyna beth dwi i fy nhad.
Dwi dal yn ddig ‘da Per Henrik Ling. Yn gyntaf creodd ffisiotherapi i roi ffug obaith. Am gelwydd. Wedyn wrth gwrs profodd bod yna rai tadau da a chariadus yn bodoli. Dwi’n ei feirniadu. Am roi gobaith i mi, am geisio fy mherswadio bod gan fywyd rannau da a bod pethau positif. Cau dy geg Per Henrik Ling. Dydy e ddim yn deall. Mae’n gallu rhedeg, loncian, dawnsio. Ac ydw, dwi’n cytuno pan oedd fy nghoesau yn gweithio do’n i ddim wir yn eu defnyddio nhw i neud ymarfer corff, ond dal! Dydy e ddim yn deall sut beth oedd peidio cael tad mor berffaith â fe. ‘Ti byth yn methu tan ti’n atal trio,’ wel dyfala beth Per Henrik Ling? Mae fy ffidil mor bell yn y to mae e i’w weld yn sbecian dros ymyl y simne. Mae treial a methu wedi bod yn gylchred cyson yn fy mywyd. Ac mae pobl fel Per Henrik Ling yn cyfrannu at y gylchred gan roi gobaith. Gobaith nad yw’n bodoli. Yn ôl Geiriadur Rhydychen gellir disgrifio gobaith fel teimlad o ymddiriedaeth. Wel, bydd yn onest, faint o bobl wyt ti’n ymddiried ynddynt? Galla’ i ddim hyd yn oed ymddiried yn fy nghoesau. Beth yw'r siawns i fi ymddiried mewn pobl fel Per Henrik Ling? Syniad eithaf tywyll dydi. Dwi ddim yn dioddef o iselder, addo. Dwi jyst, am y tro cyntaf, wedi gweld bywyd. Fel dwi wedi mynd i Specssavers ac ar ddiwedd y prawf galla’ i weld yr ysgrifen ar y bwrdd gwyn a does neb yn gofyn pam dwi’n sgwintio bellach. Nid mod i’n gweld bywyd mewn ffordd wahanol ond fel dwi’n gweld bywyd mewn ffordd o’n i wastad yn gwybod oedd yn bodoli.
Fflipin’ Per Henrik Ling!
Dwi’n Casau Esgidiau
Deugain math o esgid. Pedwar sero. Ugain math o ddefnydd yn eistedd ar dy draed. A dwi’n casau pob un. Pam fyddet ti’n eu wisgo nhw?
Yn gyntaf, maen nhw’n drewi, o ddifri nawr. Yn yr ysgol gynradd roedd bachgen, Dewi Llywelyn. Ond galwodd pawb fe’n Dewi drewi. Roedd ei sgidiau wastad yn drewi. Dwi ddim yn deall pam byddech yn gwisgo rhywbeth mor ffiaidd. Ar nodyn gwahanol, ma Dewi drewi yn eithaf golygus nawr, wir.
Yn ail maen nhw’n nafu. Dydy gwisgo pâr o ‘sgidiau ar Wind Stryd ar nos Sadwrn ddim yn hwyl, bobl. Dwi’n addo byddi di byth yn teimlo poen mor ddifrifol â phâr newydd o Converse. Beth wnaeth bodiau fy nhraed i chi, Converse? Os feddyli di amdano, pam ydyn ni’n eu gwisgo nhw? Does dim byd cadarnhaol amdanyn nhw. Beth bynnag, maen nhw’n ddibwrpas i fi bellach. Torrodd Dr Mirain Jones y newyddion `na i mi. Ti’n gweld dwi mor unigryw bod dim byd yn gweithio arna’ fi. Dim y sesiynau therapi, dim y feddyginiaeth neu’r driniaeth. Gerdda i byth eto. Felly mae esgidiau yn fwy diwerth na ffenest na ellir gweld trwyddi.
O’n i arfer caru esgidiau, o’dd gen i bob math ym mhob lliw. Nawr pan wela’ i fy nghasgliad, oes mae gen i gasgliad, dwi’n teimlo mor isel. Fel eu bod nhw’n fy ngwatwar. Felly nawr dwi’n eu casau nhw. Ond be wna i ‘da nhw? Methu eu llosgi - cynhesu byd eang. Mae mam yn bump a dwi’n chwech. Gallwn i eu taro nhw lawr i'r siop elusen... Aros... Dwi methu taro i unrhyw le ar fy mhen fy hun. Diolch Duw. Diolch Iesu. Diolch bywyd. Ydyn ni’n gallu gwerthu sgidiau ar Ebay? Gallwn eu disgrifio fel parau o sgidiau diwerth oedd unwaith ar draed merch sydd nawr mewn cadair olwyn, ond dwi’n addo doedd y sgidiau heb gyfrannu at y strôc a’r parlys. Wel, dwi’n meddwl.
Dwi’n Casau Y Gair Iawn
‘Drwy Dy Lygaid Di’ yw fy hoff gân. Yws Gwynedd. Mae’n canu am sut mae e, eisiau gweld bywyd trwy lygaid ei gariad. Cawslyd. Ond gallwn i ddeud wrtha’ ti’n syth, nid yw Ywain eisiau gweld bywyd trwy fy llygaid i. Dwi ddim hyd yn oed eisiau gweld bywyd trwy fy llygaid i. Mae’n galed ti’n deall. Dwi’n brifo ac mae pawb sy’n agos yn brifo hefyd. Oherwydd fi. Clywais i mam yn crio ddoe. Dydy mamau ddim yn ddynol i fi, mae ganddyn nhw bŵer anferth. Felly, pan glywais fy mam yn crio ro’n i’n gwybod bod rhywbeth difrifol wedi digwydd. Ond cyn cael cyfle i’w chysuro gwelais hi. Yn dal llun ohona i. “Pam ydy hi wedi ei pharlysu?” Teimlais ei siom.
Fi yw'r broblem. Dwi’n eistedd ‘da’r teulu a theimlo dwi’n siom a annifyrrwch i chi gyd. Jyst yn eistedd na ar goll, yn ofnus, heb wybod beth i’w wneud. Yn y foment yna dyna deimlais i. Chododd mam mo’i golygon ond gwyddai ro’n i’n eistedd na yn edrych arni. Greddf mam, nagyw. A galla’ i jyst dweud mai’r gadair yw’r cerbyd getaway gwaethaf erioed. Cyn i fi gael cyfle i ddianc gwelodd mam fi. Dd’wedodd hi ddim ond edrych arna’ i. Dd’wedais i rywbeth doniol am gael olwyn fflat. Chwarddodd hi ddim. Ond d’wedodd hi, “wy mo’yn i ti fod yn hapus a byw.”
Y peth yw dwi YN byw, dwi’n anadlu, dwi yma, oce dwi ddim yn hollol hapus dwi methu symud fy nghoesau, ond dal. Ond roedd y ffaith mai fi a fy mharlys oedd y rheswm bod mam yn crio wedi fy nhorri. Dwi byth eisiau gwneud i mam grio. Ond roedd hi’n crio oherwydd do’n i ddim yn hapus ac yn byw. Ond mae hapusrwydd yn cymryd amser tydi? I fod yn hollol onest dwi ddim yn meddwl dwi byth wedi teimlo hapusrwydd a llawenydd llwyr. Dwi ddim yn meddwl bod neb byth wedi. Wyt ti? Ydyn ni fel bodau dynol fod teimlo’n iawn. Oherwydd dy’n ni ddim. Dy’n i ddim yn iawn. Dwi eisiau bod yn iawn. Ond beth ydy ystyr iawn? Ai oce neu hapus neu ddiflas neu gweddol yw ei ystyr? Pam pryd ofynnwn ni i bobl sut maen nhw’n teimlo maen nhw’n dweud “iawn.” Oherwydd rili dydy hwnne ddim yn ateb. Pam nad ydyn ni’n ateb y cwestiwn? Oherwydd dy’n ni ddim yn iawn? Oherwydd bod gennym ni gywilydd? Neu oherwydd dy’n ni’n teimlo fel dy’n ni ddim yn fyw?
Dwi’n Casau Goroesi
Tri chant chwedeg pump dydd ers fy strôc. Blwyddyn o barlys. A dwi yma. Ond dwi wedi dioddef. Gwan. Ar goll. Unig. Dwi’n sefyll allan, sy’n eironig oherwydd galla’ i ddim sefyll. Ond nawr dwi’n well. Ddim yn ffisegol wrth gwrs, daeth Per Henrik Ling ddim nôl o ‘i fedd i fy annog i drio eto. Ond dwi yma. Ar y dechrau do’n i ddim ond yn bodoli. Yn gweld fy mharlys fel peth sy’n dal fi nôl, sy’n wir i raddau. Dwi’n casau clywed, “ti wedi goroesi.” Dydy hwnne ddim yn ffordd o fyw. Mae bodoli a goroesi yn ffordd o ennill rhyfel ond dydyn nhw ddim yn ffordd o fyw. Dwi ddim yn oroeswr, dwi’n fod dynol lwcus oherwydd dwi wedi mynnu byw. Mynnu chwerthin, mynnu joio bywyd. Mae gen i gywilydd cymrodd strôc i fi sylwi nad yw goroesi yn ffordd o fyw. Felly, fy ffrind, ‘wy mo’yn i ti sylwi nawr. Mae bywyd yn dda. Y gwir yw, dwi’n caru Katrina & The Waves. Dydy hi heb ateb eto ond dwi’n gobeithio bydd hi. Ac dwi'n eithaf hoff o Per Henrik Ling... ti’n cofio’r bachgen yna? Mae ffisio wedi ei helpu, mae’n gallu gyrru eto mis nesaf. Ac dwi’n arbed mwy o arian oherwydd ‘sa i angen esgidiau. Gwych nagyw? I fod yn deg, dwi dal yn casau’r gair iawn felly dwi ddim wedi newid yn llwyr. Y gwir yw wrth edrych ar wefan www.deadorkicking.com sylweddolais fydda’ i byth ar y wefan yna. Dwi dim yn hanfodol neu werthfawr yn y byd. Ond yn y ddrama dragwyddol hon o’r enw bywyd mae gen i gyfle i gyfrannu. Beth wnaet ti? Yn lle casineb a difaru a dicter, dyma gadwaodd fi’n effro yn y nos.
Meiddiais i fyw. Mae yna ddywediad ti’n gweld, ‘pan mae pethau’n mynd yn tyff, mae’r tyff yn dal ati.’ Mae’n gweithio’n well yn Saesneg. Beth bynnag, mae’r dywediad yna’n gelwydd. Dyw'r bobl ddewr a chryf ddim yn byw - pawb sy’n benderfynol o fyw sy’n byw. Mae pob bod dynol yn goroesi rhywbeth ond nid oes gobaith trwy oroesi yn unig. Rhaid meiddio byw.
***
Danfonodd Katrina ateb, hoffwn rannu ond dyw e ddim yn addas. Dwi’n meddwl ‘falle ei bod hi’n grac. ‘Falle mae’n bryd defnyddio’r cerdyn, ‘dwi wedi fy mharlysu’...
Ail am Gadair Bl.10-13
Gwanwyn, yn Mawr. Gan Jonah Eccott
‘Os Preseli oedd mur mebyd Waldo, Craig-cefn-parc oedd fy mur mebyd i.'
- Gwylim Herber Williams
Un o’m hoff deithiau ar ddiwrnod braf ar ddechrau gwanwyn yw ymlwybro draw tuag at bentref Felindre, pellter o ryw bedair milltir, trwy gaeau a thros ambell fynydd, taith dwi wedi gwneud hyd fy oes, gyda fy nheulu a ffrindiau, ond heddiw dwi ar fy mhen fy hunain.
Yma ar fynydd Tor-clawdd mae haul y gwanwyn wedi cyrraedd yr ucheldiroedd moelion, tywydd anwadal yw tywydd y gwanwyn, ond diwrnod braf yw’r diwrnod hwn. Mae fy welintons wedi sodri ar dir mawnog gwlyb y mynydd, ac mae effaith glaw neithiwr i'w glywed ym mwrlwm yr afon, islaw’r cwm coediog. Wrth i'r niwl godi, o ben draw eithaf y mynydd, gan ddatguddio’r flanced o redyn fflamgoch sy’n garped dros iseldiroedd y comin, edrychaf tua’r gogledd, trwy lafnau’r tyrbini gwynt dadleuol, ac mae’n amlwg syrthiodd ein glaw trwm ni fel eira ar y Bannau- mae'r mynydd Du yn wyn bore ma, a’r eira fel paent trwchus ar ei lethrau cerigog.
Mae llwybrau anwastad a di-dor y mynydd yn gwahodd i bob man yn y plwyf. I'r dwyrain, ac i lawr i ddyfnderau Cwm Clydach a’i goetir mawreddog, i'r gogledd a thros waun a rhos tua sir Gaerfyrddin, yn ôl ar lonydd cul i hen ffermydd gwyngalchog Cynghordy Fawr a Chefn-Parc Uchaf, i'r de, neu tua’r gorllewin i Felindre, a dyna yw fy nghyrchfan heddiw. Mae hon yn un o’m hoff deithiau, a phentref sy’n agos at fy nghalon.
Ymlaen. I lawr o gopa Tor-clawdd, ac anelu at gwm bas Llan. Dilyn y llwybrau sydd yn batrymau dwfn yn y mynydd, wedi eu treulio gan bawennau, pedolau, carnau a sgidiau amryw o deithwyr, â dwy neu bedair coes, cyn croesi’r sarn sy’n rhan annatod o fywydau nifer, boed yn fugeiliaid neu’n weithwyr proffesiynol.
Byddarol yw trydar yr ehedydd sy’n aros yn rhyfeddol o lonydd serch y gwynt gorllewinol cryf. Weloch chi erioed blentyn yn hedfan barcud? Y gwynt yn bytheirio a’r barcud lliwgar yn dal ei dir, neu ei aer! Wel dyna’r ehedydd a llinyn anweledig wedi’i glymu i'r ddaear, yn archwilio’i gynefin anial am fan addas i nythu, yn y glaswellt hir.
Cyn hir mae’r afon swnllyd wrth fy nhraed, afon gul ond afon go ddofn, a wal gylchog yn cwmpasu’r lan, dyma oedd man dipio defaid ‘slawer dydd felly does dim rhyfedd taw’r olchfa yw’r enw ar yr ardal hon o’r mynydd. Ymhellach i lawr y cwm yng nghysgodion canopi coed derw, câi’r Bedyddwyr cynharaf eu bedyddio yn nŵr pur yr afon - rhaid bod y dŵr yma yn fuddiol i anifeiliaid a phobl fel ei gilydd. Dros yr afon ag un brasgamiad mawr gan esgyn i'r bryn nesaf.
Codaf fy ngolygon tra’n troedio’r bryn, ac mae’r mur o gymylau llwyd yn troi’n ynysoedd llwm mewn môr o awyr las ac mae’r haul yn dal i wawrio.
Cyn pen dim dyma fi wedi cyrraedd copa Banc Maes-Tir-Mawr. Â phelydrau’r haul bellach yn boddi’r dyffryn, caf gyfle gwych i edmygu'r olygfa, odidog, banoramig: dyma ddyffryn dwfn, a blancedi trwchus o redyn fflamgoch ar y naill ochr a’r llall i’r afon lydan, yn esgyn hyd copaon mynyddoedd Garn Fach, Penlle’r Castell a Mynydd y Gwair. Arfer miloedd o flynyddoedd yw mwynhau’r golygfeydd hyn. Mae’r degau o wrthgloddiau ar hyd y mynyddoedd, yn gestyll a charnau yn brawf o hyn.
Mae dyfroedd di-lewyrch ac anghroesawgar y gronfa uchaf heb grych, ac yn dduach fyth yng nghysgod planhigfa Bryn Llefrith. Mae chwibaniad hir ac uchel yn dod o ganghennau blith draphlith y pinwydd, ac yn llenwi fy nghlustiau, ac yna un arall, yn ateb, o gyfeiriad yr hen chwarel, dros y gronfa. Dyma alwad yr hebog dramor. Pwy feddyliodd bod mannau diwydiannol gynt, yn hafan bellach i bâr o adar cyflymaf y byd?
Sgerbwd o adeilad yw adfail anghyfannedd ffermdy’r Bwllfa Ddu, sy’n goruchwylio'r dyffryn ddydd a nos, yn ddi-do ac â’i welydd cam, man i'r defaid lechu o’r gwynt a’r oerfel ydyw erbyn hyn ac yn atgof ingol o’r cynfyd a thraddodiad; yn glytwaith o gaeau heb ôl aradr na thractor.
Ymlaen â fi tuag at Ffermdy cymesur Maes-Tir-Mawr, cartref John a Nansi, dau o’r ychydig ffermwyr âr ym mhlwyf Mawr. Mae gweld eu fan byrgyndi yn cludo’u cynnyrch yn olygfa gyffredin, ar hyd a lled yr ardal. Prin mae mwg y ffermdy yn codi o’r corn simne am fod y gwynt mor gryf, ac mae brigau noethion y coed ffawydd yn symud yn yfflon o gwmpas y tÅ·.
Cyn cyrraedd y ffermdy, trof yn sydyn i lawr ceunant clogwynog, llawn coed deri. Mae eu canghennau megis breichiau yn ymestyn at ei gilydd, man i ambell gnocell nythu mae’n siwr. Gan wylio pob cam, a gafael mewn ambell frigyn i lawr y creigiau llithrig, cyrhaeddaf y gwaelod mewn un pishyn.
Ar waelod y ceunant mae’r heol fach sy’n cysylltu’r cronfeydd i fferm Gelli-gron a chaffi’r gronfa, roedd hon yn heol ddigon tawel, hyd nes i'r cyngor ei hailwampio gyda tharmacadam ac arwyddion mawr glas. Nawr mae’r heol yn brysur, a llawn pobl y ddinas, a’u sbwriel yn gadwyn hir ar eu holau. O leia dyw’r rhain ddim yn mentro oddi ar yr heol. Ond diolch byth, mae’r tywydd gwlyb wedi atal y dorf o ‘gerddwyr’ rhag ddod mas heddiw.
Ar y naill ochr mae rhesi taclus o eirlysiau, sy’n bocedi o wyn ymhlith dail diferol, y gollen a’r onnen. Nid dyma fy llwybr heddiw, ond af i'n syth ar draws i Flaen Myddfai. Mae'r llwybr i'r ffermdy yma megis craith, trwy’r grug a’r eithin, ar wyneb y mynydd, yn esgyn o gesail y cwm. Mae hwn yn llwybr serth a hir a diolch byth am y fainc ar ben y llethr, ger clwyd rhydlyd clos y fferm, mae cig fran yn crawcian yn aflafar ar ben postyn, gyda gweddillion brych yn ei geg tywyll.
Eisteddaf ar y fainc oer a gwlithog, sydd yn sylfaen i ffwng a mwswgl o bob lliw a llun, yn dal a choch neu’n dew a melyn. Mae modd gweld Dyfnaint, a mynyddoedd Exmoor sy’n teyrnasu dros fôr Hafren. Ymlaen wedyn tua’r ffermdy, ar ôl dad glymu’r aerwy sy’n cau’r glwyd, ac mae’r lôn gul wedi amgáu gan waith maen go arbennig, ac mae ambell i bant ar hyd y lôn yma wedi’i feddiannu gan y grifft.
Mae'r amaethdy prydferth yn dyst i newid yn yr ardal, mae’r hen feudy wrth ei ymyl bellach yn dÅ· gwyliau, a phobl o bob cwr o’r wlad yn dod yno i aros. Dwi'n falch bod gan yr hen feudy ddefnydd newydd, a’i fod yn dal i gynnig lloches. Tipyn o newid o’i bwrpas gwreiddiol, sef parlwr godro. Yn fore a nos bu’r parlwr yn gynnwrf i gyd, yn llawn twrw mecanwaith godro. Yn pwmpio llaeth, yn gwagio’r buchod ac yn llenwi’r tanciau, yn gyfeiliant i arogl cryf gwellt, gwair... a dom.
Dros sticil sydd wedi hen bydru- sy'n awgrymu cyn lleied o ddefnydd caiff y llwybr yma- ac i lawr trwy’r caeau, mae pob un cwmwl wedi darfod gan adael awyr las berffaith. Mae'r haul yn disgleirio’n braf dros y meysydd. Mae’r ddraenen wen rhwng y caeau yn dechrau blaguro, ac mae ambell i genhinen Pedr hefyd yn ymddangos rhwng bysedd creulon y drain. Gwelaf fflam coch... cadno, yn rhedeg o’m blaen, dros weiren bigog, ac i mewn i'r brwyn. Golygfa fel hyn o gadno cefn gwlad gewch chi bob tro... cipolwg os hynny... os ydych chi’n lwcus. Chwilio am ddafad hanner marw, neu furgyn mae’n siwr o fod. Mae ei gyfrwystra yn anhygoel, ond ni ellir anwybyddu’r difrod gwnaiff y cadno, boed yn gae o ŵyn newydd anedig neu gwt llawn ieir, fe laddai’r cadno’r cwbl lot. Does dim croeso i Siôn Blewyn Coch ar fferm adeg wyna, nag oes? Dim o gwbl.
I'r dwyrain mae bwthyn Cwmcile, tyddyn sy’n swatio yng nghanol coed bedw. Dyma oedd cartref y teulu Morgan, ac yn ôl pob sôn, nhw oedd yn gyfrifol am ddinistrio tollborth Rhyd-y-Pandy, rhyw filltir i lawr yr heol, ym 1843. Fe garcharwyd y teulu cyfan, am eu protest benderfynol yn erbyn anghyfiawnder y tollbyrth, er lles y trigolion lleol, ond mae eu haberth wedi ei hanghofio, heb gofeb na phlac yn adrodd eu hanes.
Mae symffoni o synau yn llenwi’r cwm. Bas undonog y tractor, bariton y cwad beics a thenor y cŵn defaid yn cyfarth yn gyffrous yn gyfeiliant i'r injans swnllyd, soprano dolef defaid llwglyd, ac alto grymus brefu’r gwartheg. Mae teulu Blaen Nant Ddu wrthi yn porthi eu diadell beichiog, gan lenwi pob rhesel, am fod angen teithio’n bell am flewyn glas yn ystod y gwanwyn.
Trwy'r caeau olaf, hyd at ffermdy bonedd Llety Tomos, ac mae enw arnynt oll; Cae Gilfach, Gwaun Fawr a Dôl y Garreg Wen i enwau rhai. Enwau sydd wedi hen sefydlu yn y tir, yn rhan annatod o fyw trwy gydol hanes amaethu yr ardal, a hyd heddiw yn nodweddiadol o ran daearyddiaeth a’i defnydd. O ydy, mae’r Gymraeg yn y tir.
Sylwir ar fy nghyrhaeddiad i fferm Llety Tomos gan haid o wyddau gwynion bu’n chwilota am wenith rhwng cerrig mân y buarth yng nghyd ag ambell ji-binc, ond yn awr yn swnllyd wrth fy nhraed, wrth i mi agor clwyd drom y buarth i'r heol. Mae gwich y glwyd yn tynnu sylw’r gaseg yn y stabl, nid oedd hi wedi fy ngweld cyn hyn. Codaf fy llaw ar Manesl, sy’n llifo cangen hir o goeden helyg yn y cae islaw’r buarth.
Mae’r saffrwn a’r cenhinen Pedr yn bocedi gwasgaredig ar hyd y gwrych, wrth ymyl y lôn fferm sy’n ymuno gyda heol Myddfai. Gwelaf hanfodion y pentref, neuadd a chapel, tafarn a melin. Mae eu drysau agored a chroesawgar yn gysgod du dros yr adeilad gwag a segur.
Yr ysgol. Wedi cau, a drysau dan glo. Mae'r ffenestri bach lliw, yn llawn lluniau o ddisgyblion a byd natur, oedd yn boddi’r ystafelloedd ag ysbrydoliaeth a chymeriad, yn enwedig ar ddiwrnod braf fel heddiw, wedi’u tynnu o dalcen yr adeilad gwag. Mae cadwyn a phad-loc ar bopeth bosib, boed yn glwyd neu’n ddrws, yn cau’r byd allan. Yn fwy amlwg na dim, does dim chwerthin, dysgu na sŵn yr iaith Gymraeg yn llifo o bob twll a chornel, fel yr oedd unwaith. Na, dim ond distawrwydd llwyr ddaw o’r adeilad di lewyrch, di iaith a di ddefnydd.
Mae blynyddoedd o atgofion o bob lliw a llun yn llifo fel yr afon bore ma, yn ôl i fy mhen; chwarae gyda ffrindiau ym mherfeddion coedwig yr ardd gefn ac ambell i gyngerdd a nifer o eisteddfodau yn y neuadd, llwyddiant ambell waith hefyd! Rhannaf yr atgofion melys yma gyda nifer o ddigyblion mae’n siwr, roedd yr ysgol yn addysgu plant lleol a thu hwnt, am dros ganrif a hanner, a diolch i'r nefoedd am gael bod yn un ohonynt. Do, gwelodd y cyngor, yn eu doethineb, mai cau’r ysgol fyddai orau, a chau’r drws ar flynyddoedd o addysg Gymraeg yn y pentre. Er gwaetha’ ymdrechion y pentrefwyr, y dewrion a’r cryfion ni chadwyd y mur hwnnw rhag bwystfil. Ni chadwyd y ffynon hon rhag y baw.
Daw’r awel fwyn a’r haul yn goglais fy nghroen a fi’n ôl o bwll fy atgofion. Yma’n awr ydw i. Yma. Yn y lle hwn sydd mor bwysig i mi. Ie, dyma fur fy mebyd i.
​
​
Trydydd am Gadair Bl.10-13
Crio gan Mirain Owen
Mae wylo yn beth gwirion, mewn gwirionedd, feddylioch chi am hynny erioed? Mae eich corff yn profi poen meddyliol ac felly yn penderfynu gwneud i ddŵr lifo fel afon o gornel y llygaid. Dydy hynny’n gwneud dim synnwyr i mi. Oni fyddai’n well cadw’r dŵr i mewn er mwyn ei roi i’r organau neu rywbeth gwyddonol, yn hytrach na gwastraffu egni felly?
Weithiau mae’r dagrau yn gallu fy mradychu, pan dwi’n dadlau ac yn bod yn ffeminist radical cŵl, ac wedyn dwi’n llefen-y-glaw oherwydd y rhwystredigaeth dwi’n ei deimlo. Dro arall dwi’n teimlo fel y dylwn i grio, ond nad ydw i’n gallu, fel pe bai’r dagrau yn sownd yn rhywle. Ddigwyddodd hynny pan fu farw fy nghath, Sali; er fy mod mewn poen, beth ddaeth allan oedd bloedd o chwerthiniad mawr, a dim un deigryn i'w ddilyn.
Pan mae fy ngwddf yn dechrau brifo, dwi’n gwybod bod angen i fi redeg, oherwydd am ryw reswm hynod annheg, ches i ddim fy ngeni gydag wyneb oedd yn edrych yn dda wrth grio, dim o gwbl. Wyneb hollol hurt ges i’n rhodd, (diolch Mam!) felly pan mae’r llais yn dechrau cracio, y wefus yn crynu, a’r bochau’n dechrau cochi, dwi’n rhedeg, does neb angen gweld yr wyneb yna, wir i chi. Yn yr ysgol gynradd, roedd pawb yn fy ngalw i'n Tanya trist, sydd yn dweud rhywbeth wrthoch chi am faint roeddwn i’n crio.
Mae bod yn ymwybodol o broblemau’r byd yn gallu bod yn drwm ar blentyn. Mae disgwyl iddo deimlo empathi tuag at bawb a phopeth, hyd yn oed y plant oedd yn gas, a theimlo trueni drostyn nhw a cheisio deall problem pob person a chydymdeimlad â phawb. Dwi ddim yn argymell hynny. Ges i oren wedi’i daflu ata i unwaith, a rhywsut wnes i ddechrau teimlo trueni dros y bachgen daflodd yr oren, yn meddwl am beth oedd wedi achosi iddo daflu’r oren ac yna ystyried tybed a oedd orennau yn cael eu taflu ato yn ei gartref. Mae fy llygaid yn llenwi o hyd wrth feddwl am y peth. Wnes i lefain am chwe awr y diwrnod hwnnw, a neb yn deall pam, a hynny yn gwneud i mi grio mwy, a mwy, tan nad oedd mwy o ddagrau i'w colli...
Mae’r newyddion yn broblem fwy dyrys eto. Sut all rhywun wylio gymaint o bobl yn marw a pheidio dechrau teimlo’r dagrau’n cronni? Wna i fyth ddeall. Mae’r byd yn le afiach i rai, ac roedd perffeithrwydd fy myd i yn gwneud i ddioddef y bobl yma ymddangos yn llawer gwaeth. Roeddwn i’n arfer darllen y newyddion ar y bws, ond dwi bellach yn cadw fy hun rhag y cywilyddio chwithig ac yn darllen y newyddion yn y bath, dwi’n wlyb yn barod yn fanno beth bynnag. Syniad anhygoel, er mai fi sydd yn dweud.
Ta waeth... Pan gollais i bopeth, daeth diwedd ar y crio; peidiodd popeth. Doedd dim dagrau. Sefais yn stond, yn hollol, hollol stond, am bedair awr. Syrthiodd yr un deigryn ar fy ngruddiau.
Ni chefais ddolur gwddw, na bochau coch; o’n i fel dogfen wag, heb ddim. Fel cwmwl ysgafn gwyn, yn bodoli, ond yn cael trafferth byw. Sut allwn i fyw hebddi? Do’n i ddim yn bwyta, neu dwi ddim yn cofio bwyta nag yfed. Mae colli rhywun yn yr oes dechnolegol hon yn anos nac o’r blaen. Aeth hi o fod yn rhif un ar fy rhestr cyfeillion Snapchat i fod yn rhif dau o fewn tridiau. O fewn wythnos roedd hi ar rif pedwar; o’n i’n ei cholli hi un rhif ar y tro, ac erbyn diwedd y mis, roedd hi wedi diflannu oddi ar snapchat. Ond roedd instagram yn f’atgoffa o’r boen. Y lluniau yn rhoi sbardunau o gof o’r diwrnodau braf gyda Sioned, lluniau hurt, atgofion drwg, da, digri, dychrynllyd. Y gwir yw doedd dim ots beth oedd y cynlluniau, roedd Sioned yn gwneud pob sefyllfa yn anhygoel!
Pa mor hir sydd yn rhaid aros ar ôl i rywun farw tan ei bod hi'n iawn i stopio eu dilyn nhw ar Instagram? I mi, roedd hi’n bryd dod â’r dilyn i ben ymhen wythnos; un botwm, ond yn gymaint o golled. Dwi’n gwybod bod y golled eisoes wedi digwydd, ond roedd y golled ddigidol yn fwy os rhywbeth, yn fwy na’r gwacter a theimlo fel llond trol o ddogfennau gwag. Ond na phoener, roedd Facebook yn fwy na hapus i fy atgoffa o’r boen yma. “Mae eich ffrind, Sioned Roberts yn cael ei phen-blwydd, dymunwch y gorau iddi”. Diolch Facebook, mi fyddwn yn fodlon gwneud hynny, ond dwi ddim yn meddwl byddai hi yn fy nghlywed i... Allai hyn fod wedi achosi dagrau i rai, ond ni theimlais unrhyw ddiferyn ar fy mochau.
Af at Spotify wedyn, i leddfu’r boen gydag ychydig o gerddoriaeth ac i weld os daw’r dagrau’n llif; daw cyfrif Sioned i'r amlwg, gan ddweud iddi fod yn gwrando ar ABBA bythefnos yn ôl, y gân olaf iddi ei chlywed. Dwi’n gallu ei dychmygu hi’n dawnsio, yn plygu ei phengliniau ac yn symud ei dwylo; roedd hi’n dawnsio fel mae mamau’n dawnsio, yn sgrechian y geiriau er nad ydyn nhw’n eu gwybod nhw. Roedd hi yno i ddawnsio, yno i grio ac yno i wylltio. Roedd hi bob amser yn hapus, a galla' i ddim meddwl am unrhyw dro pan wnaeth hi fy nhristáu. Ond yna, wrth edrych ar fy sgrin a dychmygu Sioned yn dawnsio a chanu i Mamma Mia, dwi’n cofio ei bod hi wedi fy nigalonni. Hi achosodd y boen fwyaf.
Pan welais i Sioned am y tro cyntaf, roedd hi’n gwenu ac yn chwerthin, yn gwisgo modrwy las, yr un lliw a’i llygaid. Y llygaid fyddai’n newid fy myd. O’r sgwrs gyntaf, gwyddwn ein bod yn ffrindiau oes, y fath o ffrind sy’n gwneud i fywyd stopio er mwyn rhoi gwên ar fy wyneb. Dwi’n cofio mynd i’w thÅ·. Roedd ganddi oleuadau oedd yn newid lliw, ond cadwai Sioned nhw ar las ar bob adeg. Roedd amser yn stopio symud pan roedd y golau yn las. Y byd i gyd yn rhewi, a ninnau yn parablu am fywyd am oriau. A’r golau glas yna yn gefndir i bopeth ac yn disgleirio yn ei llygaid hardd. Doedd dim byd yn ddiflas gyda Sioned. Roedd hi’n ymddangos yn fyr, ond yn cario egni tal rhywsut, hynny yw, yn hyderus, yn cario ei hun fel pyped, yn cael ei thynnu i fyny’n barhaol. Roedd hi yn ddisgybl yn Ysgol y Groes, yn Nhelgedig, pentref bach, tywyll a thawel a oedd yn magu plant llwyd a mud. Ond nid Sioned. Pelen fach o egni oedd hi. Roedd Sioned yn ffres, yn gwneud i bawb wenu, yn dweud y peth cywir, ac yn chwarae gyda’i gwallt hir brown ar bob cyfle. Roedd hi yn fy neall i, pan nad oedd neb arall yn fodlon rhoi cynnig arni hyd yn oed. Roedd hi’n fy neall i... ac mae rhan ohonof yn meddwl taw fi oedd ar fai am be ddigwyddodd.
Maen nhw’n dweud fod pum cam i'r broses o alaru. Dwi’n teimlo ‘mod i ‘mond ar gam un o alaru Sioned. Dwi’n gandryll, o fy ngho’ yn llwyr. A’r hyn sy’n waeth yw nad oes gen i unrhyw hawl i fod yn flin. Pan sefais yn stond, yn hollol hollol stond am bedair awr, o’n i’n teimlo’n flin drosof fy hun, yn troi pob dim yn ôl ata i. Ond pa hawl oedd gen i i wneud hynny? Sioned oedd yn bwysig, rhieni Sioned, roedd hyd yn oed ci Sioned yn dod yn uwch na mi! Doedd gen i ddim hawl, ond roeddwn i’n flin, yn flin efo hi. Sut allai hi fy ngadael i? Pwy oedd gen i nawr? Ysgwydd pwy oeddwn i'n mynd i grio arni, neu gyda phwy oeddwn i'n mynd i ddawnsio, neu pwy oedd yn mynd i ddweud wrtha' i pa mor hurt oeddwn i’n edrych?
Mae’r atgoffa yn boenus. Nid cofio’r atgofion sy’n anafu, ond yr hunan-atgoffa fy mod wedi’u hanghofio yn y lle cyntaf. Pan fydd technoleg yn fy mradychu ac yn fy atgoffa, dwi’n cofio, ac yn methu anghofio. Pan nad ydw i'n ei chofio hi, dyw hi ddim yno, ond tra bod yr atgofion yn fyw, mae hi yn fyw...
Aethon ni i glwb nos. Noson fawr, noson fawr i fi a Sioned. Wrth wisgo sgertiau byrion, esgidiau poenus a sawl pwys o golur, dechreuodd noson o feddwi, dawnsio, a chlosio... wedyn, wel, wedyn nes i ei brifo hi. Ddim yn bwrpasol, ond gyda chwrw yn fy ngwallt, y gerddoriaeth yn bownsio a gwydr peint gwag yn fy llaw, agosaodd Sioned, yn dynn, dynn, nes fy mod yn gallu ei chlywed hi’n anadlu. Rhoddodd ei llaw drwy fy ngwallt a gwenu, gwên o ryddhad, o ddealltwriaeth fy mod yn teimlo’r un fath. Doeddwn i ddim yn trio ei brifo hi, dyna’r peth olaf fyddwn i eisiau gwneud, ond ar ôl noson mor fawr, gwnes i’r camgymeriad o fynd adref gyda Sioned. Allai hi fod wedi cael unrhyw un, roedd rhes hir o hogiau yn aros i gael ei rhif ffôn, ond dewisodd hi fi... a doeddwn i ddim eisiau hi. Y camgymeriad mwyaf wnes i erioed oedd gadael iddi gredu fy mod yn ei charu hi.
I fod yn onest, y trasiedi mwyaf o’r holl brofiad oedd meddwl beth allwn ei wisgo i’r angladd. Beth mae person ifanc i fod i wisgo i angladd y dyddiau yma? Nid yw du yn lliw amlwg yn fy nghwpwrdd dillad, a does gan neb awydd mynd i siopa mewn cyfnod fel hyn, felly dyma anfon mam i’r siop. “Rhywbeth syml ond smart plîs mam, paid â gwario gormod,” oedd fy union eiriau. Dylech chi fod wedi gweld y ffrog erchyll brynodd hi. Ffrog gyda sparcls sgleiniog ymhob man a llawer rhy fyr i angladd, fyddwn i’n edrych fel seren o Hollywood, a nid dyna’r edrychiad cywir ar gyfer mynychu angladd eich...eich... Beth oedd hi i fi? Felly siopa ar-lein amdani, ac yna gwnes i’r camgymeriad o agor fy negeseuon. Daw teimlad o boen yn syth pan welaf fod mam Sioned wedi danfon neges. “Dim dy fai di oedd hyn, cofia hynny Tanya."
Roedd rhuban melyn dros yr arch. Byddai Sioned wedi troi yn ei bedd o wybod gan ei bod yn dweud yn aml fod “melyn yn lot rhy hapus, does neb mor hapus â melyn.” A hyn oll yn pwyso ar fy ysgwyddau, yn fy atgoffa o’i cholli, a’i cholli mor gynnar, teimlwn y fath dristwch a galar yn llenwi fy mhen. Ond ni ddisgynnodd unrhyw ddeigryn, dim un. Mewn ystafell yn llawn o’i theulu a ffrindiau yn beichio crio, dwi’n sefyll yn dal, fel pyped, heb deimladau.
Ai fi achosodd hyn? Ai’r noson honno, yn y clwb, achosodd iddi hi roi terfyn ar ei bywyd? Dwi’n gweld bai ar lawer o bobl, ond sut allwn i fod wedi parhau i grio ar ei hysgwydd ar ôl ei brifo mor ddwys? Sut na wnes i sylwi ar ei thristwch? Alla i ddim meddwl fel hyn, nid fel hyn mae hi i fod, mae Sioned i fod yma gyda fi, ond dyw hi ddim.
Ac wrth eistedd ar y bws, yn oer, a fy nhraed mewn poen ar ôl siopa, chwaraeodd spotify y tric creulona’ arna i a chlywais nodau cyntaf Mamma Mia yn fy nghlustiau. Ac, ar ôl misoedd di-ddeigryn, llifodd y dagrau i lawr fy wyneb fel afon yn cael ei rhyddhau i aber y môr, ac o’r diwedd... mae’r ddogfen wag yn dechrau llenwi eto. Amser byw, symud ymlaen fel yr afon, a byw'r bywyd na chafodd Sioned.
​
​
Gwobr Goffa Dafydd Rowlands 2023
Ewch draw i'n tudalen instagram i weld hanes a lluniau o seremoni Gwobr Goffa Dafydd Rowlands eleni. Llongyfarchiadau mawr i Mirain Owen a ddaeth yn drydydd.

Llongyfarchiadau i'r ddau griw fu wrthi yn creu'r cywaith iau a'r cywaith hÅ·n. Dilynwch y dolenni er mwyn cael gweld y gweithiau buddugol ac ewch draw i'n tudalen instagram i weld eu lluniau.
Cywaith iau: https://urdd2023.wixsite.com/cywaith-yr-urdd-bl-7…
Cywaith hÅ·n: https://williamsn8209.wixsite.com/heddwch