top of page
Doniau Disglair ein Disgyblion
Aethpwyd a chriw o fl.7 i fl.10 i Langollen am y diwrnod ym mis Gorffennaf 2022 er mwyn mynychu Seremoni Gwobrau Heddychwyr Ifanc Cymru o dan ofal Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru. Cawsom glod uchel mewn dau gategori am fideos yn gysylltiedig â Neges Heddwch ac Ewyllys Da yr Urdd a sawl fideo yn dyheu am heddwch i Wcrain.
Eleni, trefnwyd Cwis Llyfrau i fl.7-9 gyda thimau o Fryntawe, Gŵyr, Ystalyfera a Bro Dur yn cystadlu yn erbyn ei gilydd. Y beirniad oedd Alun Gibbard. Enillodd ein tîm ni o fl.9.
bottom of page